Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
English
Carmarthenshire Partnership

Cysylltwch â ni:
Avril Chambers,
Swyddog Datblygu Gofal Plant
Ffon: 01267 246552



Datblygu’r Ddarpariaeth Gofal Plant i ddiwallu anghenion rhieni/gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin ...


Mae darpariaeth gofal plant yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei datblygu dros nifer o flynyddoedd (yn unol â Gweledigaeth y Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyflwyno yn uniongyrchol trwy economi gymysg; sector preifat, gwirfoddol a statudol). Mae ein darpariaeth gofal plant presennol sydd cofrestru gydag AGGCC (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru) yn cynnwys y canlynol:

92 o Warchodwyr Plant (494 o leoedd gofal plant cofrestredig)
34 o Feithrinfeydd Dydd (1,115 o leoedd gofal plant cofrestredig)
58 o ddarparwyr Gofal Sesiynol (1,138 o leoedd gofal plant cofrestredig)
41 o Glybiau Tu Allan i'r Ysgol (175 o leoedd cofrestredig, Clybiau Tu Allan i'r Ysgol, Clybiau gwyliau, a chynlluniau chwarae)

Yn unol â Strategaeth Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r dyletswyddau statudol newydd o dan adran 22 o Ddeddf Gofal Plant 2006, bydd Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin yn parhau i ddatblygu'r ddarpariaeth gofal plant yn y sir ac yn gweithio at ddarparu 'Digon o Ofal Plant' drwy gynnig:-
  • Cymorth ariannol a chyfarwyddyd i 4 prif gorff gofal plant (Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (NCMA), Mudiad Meithrin (MM), Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru (WPPA) a Chlybiau Plant Cymru Kids Club (CPCKC) er mwyn cynnal y ddarpariaeth gofal plant ledled y Sir a'i datblygu ymhellach yn unol â chanfyddiadau ac argymhellion Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant Sir Gaerfyrddin.
  • Hyfforddiant â chymhorthdal i staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig;
  • Gwybodaeth i rieni/gofalwyr am y ddarpariaeth gofal plant gofrestredig yn y sir trwy’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
  • Ymgysylltu â meithrinfeydd dydd preifat drwy ymweld â hwy'n gyson a thrwy gyfarfodydd rhwydwaith.
  • Grantiau Cychwynnol i Leoedd newydd sy'n cynnig Gofal Plant.
  • Grantiau cynnal i bob lle sy'n darparu Gofal Plant cofrestredig sy'n cynnig Gofal drwy'r Dydd, Gofal Sesiynol, Gofal y Tu Allan i Oriau'r Ysgol/Gofal yn ystod y Gwyliau, a gwasanaeth Gwarchod Plant.
  • Grantiau ar gyfer Gwasanaethau i Blant dan 8 oed er mwyn helpu i sefydlu, ehangu neu ddatblygu clwb/darpariaeth gofal plant a gynigir gan wirfoddolwyr ac sy'n ddi-elw e.e. grwpiau i rieni a phlant bach.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r materion uchod, cysylltwch ag Avril Chambers, Swyddog Datblygu Gofal Plant, drwy ffonio 01267 246552.


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llwytho i lawr : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfannau Plant Integredig : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Tîm Teulu a Chymuned : Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc : Teuluoedd yn Gyntaf : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter