Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
English
Carmarthenshire Partnership

Cysylltwch â ni:
Tim Dechrau’n Deg
Ffôn: 01554 821589;
Facs: 01554 821674






Flying Start















Flying Start


Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin
Dechrau’n Deg Sir Gaerfyrddin

Rhaglen a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw gwasanaeth Dechrau'n Deg, ac mae'n darparu gwasanaethau cymorth dwys i blant 0–3 oed a'u teuluoedd sy'n byw yn ardaloedd difreintiedig Sir Gaerfyrddin.

Gan ategu Nod Craidd 1 Llywodraeth Cynulliad Cymru, sef “Bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael dechrau da mewn bywyd”* ac ymrwymiad y Cynulliad i ddileu tlodi plant, mae'r rhaglen hon a arweinir gan yr Awdurdod Lleol yn gweithio'n glòs gyda'i phartneriaid yn y GIG i ddarparu gwasanaethau cymorth dwys i ddiwallu anghenion teuluoedd’.

Mae Dechrau'n Deg yn rhaglen a dargedwyd, hynny yw dim ond mewn wyth ardal ddaearyddol y mae ar gael yn Sir Gaerfyrddin, sef yr ardaloedd canlynol a bennwyd yn ardaloedd 'Dechrau'n Deg':

y Betws, yn ardal Rhydaman. Bigyn, Felin-foel, y Morfa, Lakefield/ Copperworks a Llwynhendy yn ardal Llanelli. Carwe a Pharc Waun Dew yn nhref Caerfyrddin.
(Pennir pa ardaloedd sy'n gymwys yn unol â chodau post penodol.)

Ar y plentyn mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio, ac yn enwedig ar sicrhau bod pob plentyn yn datblygu ei iaith a'i sgiliau cymdeithasol ac yn datblygu'n emosiynol ac yn gorfforol er mwyn bod yn barod i ddechrau yn yr ysgol. Drwy nodi anghenion yn gynnar, mae Dechrau'n Deg yn ceisio gofalu bod gwasanaethau cymorth ar gael i ddiwallu'r anghenion hynny o fewn y teulu. Gwneir hyn drwy bedwar prif faes gwasanaeth:

1. Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Gwasanaeth Bydwreigiaeth

Darparu gwasanaeth dwys gan Ymwelwyr Iechyd; gan fod 8 swydd Ymwelydd Iechyd wedi cael eu creu yn ddiweddar a bod llai o lwyth gwaith, gall Ymwelwyr Iechyd ymweld â theuluoedd yn amlach a darparu cymorth un-i-un yn y cartref. O adeg geni baban, cynorthwyir aelodau pob teulu sy'n rhan o'r rhaglen Dechrau'n Deg i ddatblygu ac i feithrin perthynas glòs â'u baban, yn enwedig rhoddir cymorth i'r fam o ran ei hiechyd meddwl ac emosiynol, darperir clinigau wythnosol sy'n annog rhieni i dderbyn cyfleoedd i imiwneiddio eu baban, rhoddir cyngor cyffredinol ar iechyd y baban, ar ddiddyfnu, ar greu arferion ac ar batrymau cysgu. Yn ogystal, cynigir cyrsiau ynghylch rhoi 'massage' i fabanod, gan ddysgu’r rhieni sut mae meithrin perthynas glòs a'u baban a pheri ymlyniad a all gysuro a lleddfu anhwylder baban pan fydd yn sâl, yn torri dant ac wrth i’r baban dyfu. Mae'r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd yn para hyd nes y bydd y plentyn yn 4 oed, pryd y trosglwyddir y gofal am iechyd y plentyn i nyrs yr ysgol pan fydd y plentyn yn dechrau mynychu'r ysgol.

Gwasanaeth Arbenigol gan Fydwragedd – i'r teuluoedd mwyaf bregus hynny y mae arnynt angen cymorth ychwanegol i ymdrin ag anghenion dwys a nodwyd, mae gwasanaeth bydwreigiaeth ar gael cyn geni'r plentyn ac mae'n cynnig cyngor ar gadw'n iach yn ystod y beichiogrwydd. Dim ond drwy gael eich cyfeirio ato gan eich Bydwraig Gymunedol y cewch y gwasanaeth hwn.

Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd – mae'r gwasanaeth hwn ar gael i deuluoedd a'u plant ar sail un-i-un yn y cartref, lle nodwyd bod plant sydd ar ei hôl hi o ran eu datblygiad neu eu sgiliau iaith. Mae Swyddogion Cymorth Dechrau'n Deg yn darparu rhaglen iaith a lleferydd a gynhelir yn y cartref dros gyfnod o 6 wythnos ac maent yn annog rhieni i ddal ati i wneud y gwaith iaith yn barhaol ar ôl i'r sesiynau ddod i ben.

Ffoniwch 01554 742468 i weld a oes gennych hawl i gael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn a ddarperir yn rhad ac am ddim.

2. Gofal yn rhad ac am ddim i blant 2–3 oed

Mae gan blant sy'n byw mewn ardaloedd Dechrau'n Deg hawl i gael gofal plant rhan-amser yn rhad ac am ddim am ddeuddeng awr a hanner yr wythnos, sef dwy awr a hanner bob dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 42 wythnos y flwyddyn. Mae Dechrau'n Deg wedi prynu lleoedd gofal plant gan y darparwyr canlynol:
  • Cylch y Felin, y Betws yn Ysgol Gynradd Gymunedol y Betws
  • Canolfan Deulu Sant Paul ym Migyn
  • Meithrinfa Ddydd Ty'r Myrtwydd ym Migyn
  • Cylch Meithrin Carwe yn Ysgol Gynradd Carwe
  • Cylch Meithrin Felin-foel, yn y Ganolfan Addysg Gymunedol, Felin-foel
  • Grwp Chwarae Jellitotz, Neuadd Gymunedol Pen-y-Morfa, y Morfa
  • Meithrinfa Teddybears yng Nghanolfan Dewi Sant, Llanelli
  • Y Ganolfan Blant, Llwynhendy
  • Canolfan Deulu Ty Ni, Tref Caerfyrddin
  • Canolfan Deulu Ty Hapus, Ystad Parc y Bryn, Caerfyrddin
  • Canolfan Deulu Argel, Tre Ioan
Mae Athro/Athrawes Blynyddoedd Cynnar y rhaglen Dechrau'n Deg yn gweithio gyda phob lleoliad sy'n darparu gofal plant er mwyn datblygu cynlluniau cwricwlwm priodol a gweithgareddau sy'n ysgogi datblygiad plant dwy oed. Mae'r pwyslais ar bennu safonau sy'n creu darpariaeth gofal plant 'o safon' ar draws pob un o'r 11 lleoliad sy'n darparu gofal plant.

Ffoniwch 01554 742468 i weld a oes gennych hawl i gael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn sy'n rhad ac am ddim ac er mwyn gweld a oes lleoedd gofal plant ar gael.

3. Rhaglenni Rhianta

Mae rhieni sy'n byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg yn cael cymorth pellach drwy gael y cyfle i fynd i amrywiaeth o raglenni rhianta, sy'n ceisio rhoi iddynt y sgiliau y mae eu hangen arnynt i fagu plant yn effeithiol. Mae rhai cyrsiau yn benodol ar gyfer rhieni newydd a'u babanod er mwyn annog meithrin perthynas glòs â'r baban a pheri ymlyniad rhyngddynt. Wrth i'r plant dyfu, mae rhaglenni eraill ar gael sy'n meithrin hyder rhieni i ymdrin ag ymddygiad eu plant, yn hyrwyddo rhianta cadarnhaol, yn creu ymagweddau cadarnhaol at feithrin perthynas iach rhwng rhieni â'u plant. Mae'r canlynol ymhlith y cyrsiau a gynigir:
  • rhaglen 'Sut mae dod i adnabod eich baban' (Webster Stratton) – i rieni newydd sydd â babanod newydd-anedig a phlant hyd at 12 mis oed
  • Sgrinio i Asesu'r Newydd-anedig – asesiad o'r rhiant a'r plentyn sy'n annog meithrin perthynas y rhiant â'r baban a'u hymlyniad wrth ei gilydd
  • 'Rhoi Massage i Fabanod' – ar gyfer y newydd-anedig a babanod hyd at 12 mis oed
  • rhaglen 'Y Blynyddoedd Rhyfeddol' (Webster Stratton) – i blant 2–3 oed
  • 'Ymdrin ag Ymddygiad Plant' – i blant 2–3 oed.
Ffoniwch 01554 742468 i weld a oes gennych hawl i gael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn sy'n rhad ac am ddim.

4. Rhaglenni Sgiliau Sylfaenol

Mae cyrsiau Chwarae ac Iaith (LAP) ar gael i deuluoedd sy'n byw yn ardaloedd Dechrau'n Deg ac maent yn dangos i rieni sut mae ymwneud â'u plant a chwarae gyda nhw mewn modd cadarnhaol er mwyn hybu ac ysgogi datblygiad iaith eu plant, gan gynnwys cynyddu ystod eu geiriau a'u geirfa. Mae hwn yn gwrs poblogaidd iawn ymysg rhieni gan ei fod yn gwneud iddynt deimlo’n dda sy'n hwb i feithrin perthynas gref ac iach rhwng y rhiant a'r plentyn. Bydd rhieni'n siarad â'u plant, yn chwarae gyda nhw ac yn creu gweithgareddau crefft gyda'u plant gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael a chanu caneuon a rhigymau, y cyfan mewn ymgais i gael y plentyn i 'ddysgu trwy chwarae'. Mae'r cyrsiau Chwarae a Rhifau yr un mor boblogaidd ac yn debyg iawn, gan ddefnyddio geiriau yn gysylltiedig â ffigurau, rhifau a siapiau i hybu datblygiad iaith y plant.

Yn ogystal, mae sesiynau adrodd stori i'w cael yn y llyfrgelloedd lleol ac ar y Bws Stori ac fe'u trefnir bob hyn a hyn drwy gydol y flwyddyn a rhoddir cyhoeddusrwydd iddynt yn lleol. Mae'r Bws Stori wedi ei ddodrefnu mewn modd sy'n hybu creadigedd a dychymyg plentyn, gyda chornel glyd lle mae storïwr a hyfforddwyd yn adrodd straeon sy'n ymwneud â thema a ddewiswyd. Mae plant bach iawn yn dotio ar y ‘Y Bws Stori’ gan fod tu allan y bws wedi ei beintio'n ddeniadol tu hwnt ac arno luniau pert yn gysylltiedig â thudalennau llyfr a llythrennau.

Ffoniwch 01554 742468 i weld a oes gennych hawl i gael unrhyw un o'r gwasanaethau hyn sy'n rhad ac am ddim.



Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llwytho i lawr : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfannau Plant Integredig : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Tîm Teulu a Chymuned : Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc : Teuluoedd yn Gyntaf : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter