| Cysylltwch â ni:
|
Tîm Genesis yn Sir Gaerfyrddin:
Uned 7, Parc Diwydiannol Llanelli, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli SA14 8DZ.
Ffoniwch: 01554 744340
|
|
Genesis Carmarthenshire
Os nad ydych wedi gweithio ers peth amser, ac os yw eich amgylchiadau yn golygu ei
bod yn anodd ichi ddychwelyd i ddysgu, hyfforddiant neu waith, efallai y bydd Genesis
yn gallu eich helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae ein tîm Ymgynghorwyr Oedolion penodol yn gweithio gydag unigolion i'w helpu
i baratoi at y dyfodol, ac i ddarparu'r cymorth sydd ei angen arnynt i'w helpu i gyflawni
eu hamcanion a chreu gwell dyfodol iddynt eu hunain
Gall hyn gynnwys:
- Cymorth, cyngor ac arweiniad
- Cyrsiau meithrin hyder a datblygiad personol
- Cymorth i gael hyd i gyrsiau hyfforddiant addas
- Cymorth i gael hyd i ddarparwyr gofal plant
- Cyllid ar gyfer gofal plant*
- Cymorth ariannol arall*
- Cymorth i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant a lleoliadau gwaith.
* lle nad oes modd cael cyllid o unrhyw ffynhonnell arall.
I gymryd rhan, mae'n rhaid i unigolion fodloni'r amodau canlynol:
- Byw yn Sir Gaerfyrddin
- Bod dros 16 oed
- Bod yn ddi-waith neu'n hawlio budd-daliadau
Rhoddir blaenoriaeth i'r canlynol:
- Menywod
- Unig rieni
- Unigolion sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith oherwydd problemau iechyd
- Pobl rhwng 16 a 18 oed nad ydynt yn astudio, yn cael hyfforddiant nac yn gweithio
- Unigolion dros 50 oed
- Pobl Dduon a Grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch Thim Genesis yn Sir Gaerfyrddin:
Uned 7, Parc Diwydiannol Llanelli, Heol Troserch, Llangennech, Llanelli SA14 8DZ.
Ffoniwch: 01554 744340
Mae Genesis Cymru 2 yn brosiect Cymru gyfan a gyllidir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac a gefnogir
gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin
|