Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
English
Carmarthenshire Partnership

Cysylltwch â ni:
Partneriaeth y Plant
Ffôn: 01267 246552



Cyllid a grantiau ar gyfer sefydliadau Gofal Plant


Grant Cynaladwyedd

Mae grant cynaladwyedd wedi ei glustnodi ar gyfer holl darpariaethau cofrestredig sydd mewn argyfwng ariannol difrifor ac mew perygl o gau, neu darpariaeth sydd yn ehangu eu darpariaeth i gynnyddu eu nifer o leodd gofal plant.

Pwy all ymgeisio?
Unrhyw darpariaeth sydd yn darparu Gofal Dydd Llawn, Gofal dydd Sesiynol, Clwb Gofal Ar ôl Ysgol neu Ofal yn ystod gwyliau a Gwarchodwyr plant sydd wedi cofrestru gyda Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC)

Grant Dan 8

I rhoi cymorth er mwyn sefydlu, ehangu neu datblygu sefydliad di-elwsydd yn darparu gofal plant yn wirfoddol, e.e Grwp Ti a Fi, “Beavers” a.y.y.b

Grant Cynlluniau Chawrae

Mae’r grant yma ar gael i ddarpariaethau cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau’r Haf.

Grant Cychwynol

Mae’r grant ar gael i gefnogi ddarpar darparwyr gofal plant gyda threuliau cychwynnol sy’n gysylltiedig â sefydlu darpariaethau NEWYDD Gofal Dydd Llawn, gofal dydd Sesiynol, Clwb Gofal Ar ôl Ysgol neu Gofal yn ystod Gwyliau er mwyn ehangu'r math o ofal plant sydd ar gael o amgylch y Sir, i alluogi rhieni / gofalwyr dderbyn gofal plant sydd at eu hanghenion unigol a’i amgylchiadau.

Mae’r grant ar gael trwy ffynhonnell cyllid refeniw i gefnogi treuliau sy’n ymwneud a sefydlu darpariaeth newydd. Er enghraifft treuliau staff, treuliau yn ymwneud â hyrwyddiad a chyhoeddusrwydd, offer ac adeiladau.

Pwy all ymgeisio?
Unrhyw grwp neu unigolyn sydd yn darparu Gofal Dydd Llawn, Gofal dydd Sesiynol, Clwb Gofal Ar ôl ysgol neu Ofal yn ystod gwyliau sydd wedi cyflawni cofrestriad llawn yn ddiweddar gydag Arolygaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), neu sydd yn y broses o gofrestru ac sydd wedi derbyn enw archwiliwr sydd wedi ei chlustnodi i ddelio â’r cais.

Grant cychwynol gwarchodwyr ( Dechrau da)

Ar gael i holl warchodwyr sydd wedi mynychu sesiynau briffio AGGCC ac wedi cwblhau cwrs CGGP Cyflwyniad Arferion Gwarchod Plant (yn y cartref). Mae’n rhaid i’r gwarchodwyr fod yn y cam olaf o’i chofrestriad cyn y gallant wneud cais. Mae’r grant yn cynnwys:-

Ffi cwrs Cyflwyniad Arferion Gwarchod Plant, â’r treuliau sy’n gysylltiedig a prynu pecyn Dechrau Da ar gyfer gwarchodwyr newydd sydd yn cynnwys:-
  • Aelodaeth o’r NCMA am flwyddyn.
  • Gwerth 12 mis o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.
  • Cynrychiolaeth gyfreithiol am ddim.
  • Llyfr cyfrifon / cofrestr presenoldeb / llyf damweiniau, digwyddiadau a meddyginiaeth.
  • Blanced dân.
Am ragor o wybodaeth ynglyn a’r grantiau uchod cysylltwch â Partneriaeth y Plant ar 01267 246552.


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llwytho i lawr : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfannau Plant Integredig : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Tîm Teulu a Chymuned : Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc : Teuluoedd yn Gyntaf : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter