|
Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd Sir Gaerfyrddin
Safwe GGT: fis.carmarthenshire.gov.uk
Sefydlwyd y gwasanaeth hwn yn wreiddiol yn 2003 fel un o'r 22 Gwasanaeth Gwybodaeth Plant ledled Cymru, er mwyn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch gofal plant i rieni a darpar rieni yn eu Sir. Yn 2008 cafodd y gwasanaeth ei ailenwi'n genedlaethol fel Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd. Rhoddwyd dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol ar draws Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ehangu'r amrywiaeth o wybodaeth a chymorth a ddarperir ganddynt.
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd Sir Gaerfyrddin yn darparu cyngor ac arweiniad dwyieithog a diduedd ar amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gofal plant a chymorth i deuluoedd.
Rydym yn cynnig gwybodaeth am y canlynol:
- Gofal plant sydd ar gael a'r Cyfleusterau:
- Gofal plant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
- Cyfleusterau mewn lleoliadau gofal plant ar gyfer plant ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig
- Gwybodaeth ynghylch pob gofal plant cofrestredig a phob gofal plant sydd heb ei gofrestru.
- Datblygiad ac Ymddygiad Plentyn
- Gwasanaethau Dysgu i'r Teulu ac Addysg
- Rhaglenni rhianta, gwasanaethau cyn-geni ac ar-ôl-geni
- Manylion am gyrsiau a chyllid, a chyfleoedd addysg bellach ac addysg uwch
- Gwasanaethau Llyfrgell
- Cyfleoedd Dysgu i'r Teulu
- Gwasanaethau Ariannol a Chyfreithiol:
- Cyngor i rieni ar sut i dalu am gostau gofal plant e.e. credydau treth, cynlluniau cymorth ac ati/li>
- Gwasanaethau Iechyd a Lles
- Ysgolion lleol
- Chwarae, Chwaraeon a Chyfleusterau Hamdden eraill ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
- Gwasanaethau i Blant ac Oedolion ag Anableddau
- Cadw'n Ddiogel
- Grwpiau cymorth i Rieni a Theuluoedd
- Gwasanaethau Lleol a Chenedlaethol sy'n cynnig cymorth i deuluoedd
- Gwasanaethau sy'n hyrwyddo’r Gymraeg
Rydym yn croesawu ymholiadau gan:
- Rieni a Gofalwyr
- Cyflogwyr
- Gweithwyr Proffesiynol
- Pobl sy'n rhedeg busnes gofal plant ar hyn o bryd neu sy'n gobeithio dechrau busnes o'r fath
- Myfyrwyr a/neu bobl sydd wrthi'n ystyried gofal plant fel gyrfa
- Sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd
I gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i blant, pobl ifanc a theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin:
Ffôn: 01267 246555
Ffacs: 01267 246745
e-bost childreninfo@sirgar.gov.uk
Safwe GGT: fis.carmarthenshire.gov.uk
Defnyddiwch ein Gwasanaeth Negeseuon Testun
Rydym yn rhoi gwybodaeth gyffredinol heblaw gwybodaeth am ofal plant drwy gyfrwng ein gwasanaeth negeseuon testun. Tecstiwch ‘Plant’ neu ‘Children’ i 07786 202747 ac yna rhowch eich ymholiad.
|