Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin  
Carmarthenshire Children's Partnership  
               

Navigation Cartref
Dewch i adnabod y Tîm
Partneriaeth
Gwasanaeth Gwybodaeth ynghylch Plant
Cychwyn Cadarn
Iaith a Chwarae
Chwarae
Arian i blant 3 oed
Hyfforddiant
Recriwtio
Datblygiad Gweithlu
Digwyddiadau
Llyfrgell Deganau
Downloads
Genesis
Dechrau’n Deg
Canolfan Blant Llwynhendy
Digonolrwydd Gofal Plant

English





 
Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership



Canolfan Blant Llwynhendy

Llwynhendy Children’s Centre Canolfan Blant Llwynhendy
Cyfeiriad:
Ger Heol Llwynhendy
Llwynhendy
Llanelli
SA14 9DP
Rhif ffôn:
01554 775 390

E-bost:
kpowell@sirgar.gov.uk
sparker@sirgar.gov.uk

Pryd mae'r gwasanaeth ar gael: Ar agor drwy'r flwyddyn

Oriau agor: 9am – 8pm (yn dibynnu ar y gwasanaeth)

Oedran: 0 – 11 oed (cysylltwch â'r Gwasanaeth Ieuenctid ynghylch plant 11 oed a hyn)


Beth yw Canolfan Blant?
Llwynhendy Children’s Centre
Llwynhendy Children’s Centre
Llwynhendy Children’s Centre
Llwynhendy Children’s Centre
Llwynhendy Children’s Centre
Llwynhendy Children’s Centre


Mae Canolfan Blant yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau i wella bywyd plant a'u teuluoedd. Gallant gynnig Addysg Blynyddoedd Cynnar, Cyfleoedd Chwarae a Rhaglenni Hyfforddiant i Oedolion, Clybiau Ieuenctid i Blant Iau a gweithgareddau sy'n cynnwys plant a rhieni. Gallant gynnig gwasanaethau gyda'r hwyr ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Maent yn unigryw i bob cymuned ac yn datblygu mewn partneriaeth â gwasanaethau sydd ar gael eisoes er mwyn darparu rhwydwaith o wasanaethau i blant a theuluoedd.


Ble mae'r ganolfan?

Lleolir y Ganolfan Blant gyntaf yn Sir Gaerfyrddin yn Llwynhendy (gyferbyn â'r ddeintyddfa) ac mae ar agor i aelodau'r gymuned yn Llanelli a darperir rhai gwasanaethau ar gyfer plant sy'n byw yn Llwynhendy yn benodol.


Pa wasanaethau yr ydych yn eu cynnig

Mae'r rhaglen yn newid yn ôl anghenion y gymuned, felly argymhellir eich bod yn cysylltu â'r ganolfan i gael yr amserlen ddiweddaraf o weithgareddau. Dyma rai enghreifftiau o'r gwasanaethau sydd ar gael:-

I Blant yn Unig

Clwb Plant (Ar agor drwy'r flwyddyn)
Chwarae Mynediad Agored i blant 7-11 oed bob dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 6pm a 7.30pm

Awyr Agored (Diwrnodau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol yn unig)
Yn ystod gwyliau'r ysgol rydym yn mynd â'r plant i feysydd cymunedol lleol i chwarae yn yr awyr agored. Mae'r gweithgareddau i blant 7 – 11 oed (llai na 2 awr)

Clwb Chwarae (Diwrnodau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol yn unig)
Clwb Chwarae i blant 4 – 6 oed yn ystod gwyliau'r ysgol (llai na 2 awr)

Grwp Blynyddoedd Cynnar (Ar agor 42 wythnos y flwyddyn)
Sesiynau Gofal Plant Dechrau'n Deg drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg (dwyieithog) i blant 2-3 oed. Mae pum sesiwn yr wythnos ar gael yn ddi-dâl i blant sy'n byw yn yr ardaloedd penodedig.

Clwb Ar Ôl Ysgol
Ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener 3pm tan 5.30pm. Rheolir y gwasanaeth hwn gan CYCA a chodir tâl bychan am y gwasanaeth.

Hefyd mae CYCA yn darparu Cynlluniau Chwarae yn Llanelli yn ystod y rhan fwyaf o'r gwyliau

I Oedolion yn Unig

Rhaglenni i feithrin a datblygu sgiliau rhianta neu sgiliau i'w defnyddio yn y gweithle. Darperir y rhain i ddiwallu'r angen:-

  • Cyfrifiaduron
  • Cymraeg
  • Rheoli ymddygiad plant
  • "Massage" i fabanod
  • Cymorth Cyntaf
  • GROW - Rhaglen sy'n helpu i feithrin hyder a darparu cyfleoedd i Ferched a Dynion
Bydd cyrff eraill yn defnyddio'r ganolfan i ddarparu rhaglenni penodol e.e. Lleferydd ac Iaith.

Hefyd mae'r rhan fwyaf o'r grwpiau yn cael cymorth gan Genesis sy'n darparu crčche i'r plant.

I chi a'ch plentyn

Gweithgareddau i blant a'u rhieni:-

Chwarae ac Iaith - (yn ystod y tymor yn unig)
Dewch i ymuno yn yr hwyl! Gweithgareddau creadigol, caneuon a phenillion bob dydd Mercher rhwng 1pm a 2.30pm

Grwp Cymorth Bwydo ar y Fron – bob dydd Llun o 10.30am tan 12.30pm.
Gall babanod chwarae tra byddwch yn derbyn cymorth gan yr Ymwelydd Iechyd neu famau eraill!

Clinig Babanod – Bob bore Gwener

Diwrnodau Hwyl – Cynhelir Diwrnodau Hwyl i'r Teulu drwy'r flwyddyn.


Y Newyddion Diweddaraf

Bwriedir agor Canolfannau Plant yn Felin-foel a'r Morfa yn rhan o'r rhaglen Datblygu Ysgolion Newydd. Ond ni fwriedir agor y rhain tan 2009/2010. Rydym yn ymgynghori â chymunedau ar hyn o bryd…..felly os hoffech ddweud eich dweud am y modd y mae'r canolfannau hyn yn cael eu datblygu anfonwch e-bost at kpowell@sirgar.gov.uk neu ffoniwch: 01554 775 390.


Llwynhendy Children’s Centre partners

© 2008

 
               
Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth ynghylch Plant : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Llyfrgell Deganau : Downloads : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfan Blant Llwynhendy : Digonolrwydd Gofal Plant


Site Meter