| Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin   Carmarthenshire Children's Partnership   | |||||||||
|   |   |   |   |   |   |   |   | ||
|
Navigation
| |||||||||||||||||||||||
|   | ![]()
- Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2006 Pwrpas y Strategaeth Datblygwyd y Strategaeth Chwarae i gydnabod pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin. Mae’n ceisio codi proffil chwarae a darparu llwyfan ar gyfer datblygu cyfleoedd chwarae yn y dyfodol. Bwriedir i Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrdin fod yn offeryn ar gyfer sicrhau bod chwarae yn cael ei gynnwys a’i ystyried yng ngwaith pob asiantaeth sy’n gweithredu yn y Sir. Bwriedir i’r Strategaeth fod yn ddogfen ymarferol sy’n cyflwyno’r egwyddorion arweiniol a’r materion sydd i dderbyn sylw yng ngwaith y dyfodol. Gweledigaeth ar gyfer chwarae Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd i chwarae a hoffai i bob plentyn a pherson ifanc fod yn iach, yn hapus a mwynhau eu hamser rhydd. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin yn medru cyrchu profiadau chwarae cyffrous, ysgogol a chreadigol trwy ddarparu chwarae o ansawdd, o dan a heb oruchwyliaeth, sy’n rhoi cyfleoedd ar gyfer her. Cysylltiadau Strategol: Agendâu Cenedlaethol a Lleol
Mae datblygiad Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu agendau polisi cenedlaethol ac agendau lleol. Ar lefel genedlaethol, cynhyrchodd Llywodraeth Cynulliad Cymru bolisi chwarae yn 2002 ac o ganlyniad sefydlwyd Grwp Gweithredu Chwarae i ddatblygu argymhellion pellach ar gyfeiriad chwarae. Lansiwyd ‘Chwarae yng Nghymru’ – Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Chwefror 2006. Mae ‘Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau’ yn cyflwyno’r camau a gymerir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, o dan ei saith nod craidd, ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae chwarae yn cyfrannu tuag at weithredu y saith nod craidd yma. Nodau Mae’r amcanion a’r argymhellion o fewn y Strategaeth Chwarae yn cael eu rhannu i chwech amcan: Amcan 1: Annog mwy o ddarpariaeth chwarae Amcan 2: Chwarae yn yr ysgol Amcan 3: Chwarae yn y gymuned Amcan 4: Gwaith chwarae fel galwedigaeth Amcan 5: Rheoli risg a phryderon rhieni Amcan 6: Datblygu Chwarae yn strategol ar draws Sir Gaerfyrddin Mae Strategaeth Chwarae Sir Gaerfyrddin yn ceisio sicrhau fod chwarae plant a phobl ifanc yn fwy cydgysylltiedig trwy ddatblygu amryw o argymhellion all gael eu defnyddio gan Gyngor Sir Gaerfyrddin a mudiadau stadudol a gwirfoddol er mwyn gwella cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc ar draws y Sir. Wrth weithio mewn partneriaeth gyda’r mudiadau yma yn ogystal a rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc, mae’r Strategaeth yn dangos ymroddiad i sicrhau fod holl blant a phobl ifanc yn medru cyrchu ystod o brofiadau hwyl, amrywiol a cyffrous sydd yn rhydd o risg annerbyniol a sydd yn annog amrywiaeth ac annog cynhwysiant pob plentyn. Yr Ymgynghoriad Ymgynghorwyd yn eang ar y Strategaeth a derbyniwyd adborth oddi wrth ysgolion, lleoliadau ieuenctid, y Gwasanaeth Ieuenctid, a chynrychiolwyr plant o dan gofal, plant ag anableddau a darparwyr chwarae. Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad o’r ymgynghoriad gyda phlant: Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad ymgynghoriad gyda phobl ifanc: Lawrlwythwch gopi o’r adroddiad ymgynghoriad gyda darparwyr chwarae Cafodd y plant a’r bobl ifanc gyfle i gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth. Roedd angen cynllunio logo ar gyfer y fersiwn plant a phobl ifanc o’r Strategaeth Chwarae a chreu teitl ar gyfer y ddogfen. Beirniadwyd y gystadleuaeth gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Cynllunio logo: Enillwyr y gystadleuaeth
Creu teitl: Enillwyr y gystadleuaeth 1st Liam Danter, Ysgol Gynradd Parc yr Hun ‘Hei! Dewch i Chwarae! 2nd Jessica Roderick, Ysgol Gynradd Parc yr Hun ‘Dewch i chwarae!’ 3rd Leigh Webb, Ysgol Gynradd Parc yr Hun ‘Mae chwarae yn iach i chi ac yn hwyl’
The Lansiad Lansiodd Cyngor Sir Gaerfyrddin eu Strategaeth Chwarae ar Ddydd Llun, 14eg Gorffennaf. Mynychodd plant lleol y lansiad, a chymerwyd rhan mewn gweithdai a gafodd eu cydlynnu gan Trysordy, cwmni wedi ei selio yn Nhre Ioan sydd yn ailgylchu deunydd sgrap er mwyn creu nwyddau chwarae. Ymunodd y Commisiynydd Plant, Keith Towler, gyda’r disgyblion o Ysgol Gynradd Parc yr Hun ac Ysgol Gynradd Capel Iwan. Hefyd, lansiwyd DVD y Strategaeth Chwarae ac mae copiau o’r DVD ar gael i’w benthyg gan y Bartneriaeth Plant. Bydd y DVD yn cael ei defnyddio fel offeryn hyrwyddiol er mwyn codi proffil pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant a phobl ifanc sydd yn byw o fewn Sir Gaerfyrddin. Lawrlwythwch gopi o’r Strategaeth Chwarae i Blant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin (2008 – 2011) Os hoffech fwy o wybodaeth ynglyn a’r Strategaeth Chwarae a’r DVD cysylltwch â’r Partneriaeth Plant ar 01267224224. Diweddariad y Loteri Fawr
Lansiodd Cronfa’r Loteri Fawr eu rhaglen Chwarae Plant gwerth £13 miliwn yng Nghymru ar 30ain Hydref 2006 fel rhan o’r fenter Teuluoedd Iach. Diben y Rhaglen Chwarae Plant oedd ariannu datblygiad isadeiledd chwarae i blant, a phrosiectau chwarae pwysig ledled Cymru. Lluniwyd y rhaglen ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 12 mlwydd oed a oedd yn byw yng Nghymru. Anogwyd Awdurdodau Lleol ledled Cymru i gyflwyno ceisiadau traws – sirol ar gyfer yr arian hwn. Ym mis Rhagfyr 2007 hysbyswyd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Benfro gan gronfa’r Loteri Fawr bod eu cais rownd gyntaf ar y cyd am isadeiledd traws-sirol wedi llwyddo. Dyfarnwyd £250,000 yn y lle cyntaf i ddatblygu isadeiledd chwarae ar draws y ddwy sir. O ganlyniad, penodwyd Cydgysylltydd Datblygu Rhanbarthol a chynorthwy-ydd Gweinyddol rhan amser, fydd yn gyfrifol am ddatblygu ‘Cymdeithas Chwrae Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro’. Bydd y swyddi hyn yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynnal a datblygu cydlyniad strategol chwarae i blant a phobl ifanc ar draws y ddwy sir. Bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Benfro yn parhau i weithio mewn partneriaeth i lunio cais am brosiectau chwarae yn yr ail rownd, fel bod modd datblygu mwy o ddarpariaeth chwarae ar draws y ddwy sir. Mae’r tabl isod yn amlinellu’r amserlen y bydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Sir Benfro yn cadw ati wrth gyflwyno cais ar gyfer yr ail rownd ariannu yn Rhaglen Chwarae Plant y Loteri Fawr.
© 2008 |   | |||||||||||||||||||||
|   |   |   |   |   |   |   |   |