| Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin   Carmarthenshire Children's Partnership   | |||||||||
|   |   |   |   |   |   |   |   | ||
|
Navigation
| |||
|   | ![]()
Deddf Gofal Plant 2006 sydd wrth wraidd y ddogfen "Ar Gyfer Plant y mae Gofal" sef Strategaeth Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy'n rhoi rôl allweddol i awdurdodau lleol o ran pennu ffurf eu marchnad gofal plant leol. Mae'n atgyfnerthu’r bartneriaeth â darparwyr yn y sector preifat, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a'r sector a gynhelir sy'n angenrheidiol i greu marchnad gofal plant gref, gynaliadwy ac amrywiol sy'n diwallu anghenion rhieni a gofalwyr.
Mae'r Asesiad yn manylu ynghylch y cyflenwad a'r galw yn y sir gyfan. Mynd i'r afael ag anghysonderau yn y cyflenwad gofal plant a'r galw amdano yw nod yr Asesiad. Bydd yn rhaid cael rhagor o leoedd gofal plant mewn rhai rhannau o'r Sir; i gyflawni'r nod hwn bydd yn rhaid i'r broses a ddefnyddir adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol er mwyn datblygu marchnad gofal plant leol gadarn a chynaliadwy heb beri anfantais i'r rheiny sydd eisoes yn darparu gofal plant o safon. Bydd y cyfnod ymgynghori yn para o: 10fed Tachwedd – 19eg Rhagfyr 2008. Datblygir cynllun gweithredu mewn partneriaeth dros y misoedd nesaf er mwyn ceisio rhoi'r argymhellion a bennwyd yn yr Asesiad o Ddigonolrwydd y ddarpariaeth Gofal Plant yn Sir Gaerfyrddin ar waith. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch Asesiad o Ddigonolrwydd y ddarpariaeth Gofal Plant yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â'r canlynol: Lisa Morgan, Swyddog y Bartneriaeth Plant drwy ffonio 01267 224283. © 2008 |   |
|   |   |   |   |   |   |   |   |