|   |
Mae Cychwyn Cadarn yn ceisio rhoi cychwyn da i fywydau plant ifanc
Cynllun y Llywodraeth er mwyn cael gwared â thlodi plant o fewn cenhedlaeth. Fe'i cyflwynwyd yng Nghymru yn 1999
Gofynnwyd i bob un o'r 22 Awdurdod Lleol drefnu partneriaeth aml-asiantaethol a chyflwyno Cynllun 3 blynedd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Nawdd:
- 2008-09 Dosbarthwyd Cyngor Sir Gaerfyrddin £979,392 i ariannu 13 o brosiectau.
- Pwyslais ar nodi anghenion yn gynnar ac ar wasanaethau ataliol
- Pwyslais ar werthuso effaith y Rhaglen
- Pennwyd targedau cyffredinol gan y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Taflen Cychwyn Cadarn (600kB)
Mae Partneriaeth Cychwyn Cadarn yn credu bod y teulu yn ganolog i lwyddiant y Cynllun a bernir bod cynaliadwyedd y Cynllun yn dibynnu ar y gallu i feithrin gallu gyda theuluoedd ac o fewn cymunedau. Mae aelodau ieuengaf ein cymunedau yn haeddu'r cychwyn gorau mewn bywyd, o fewn amgylchedd diogel, er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd bywyd.
Mae'r Cynllun Cychwyn Cadarn yn anelu at ddaparu rhwydwaith y gall bob rhiant sydd ag angen cymorth, gysylltu ag ef, ar draws y sir, gan dalu sylw arbennig i'r ardaloedd hynny y mae eu hanghenion wedi'u clustnodi fel rhai sy'n galw am adnoddau ychwanegol. Mae'r Cynllun hefyd yn cydnabod bod ar blant sydd ag anableddau neu anawsterau datblygu angen mwy o gymorth yn y blynyddoedd cynnar yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael i bob plentyn.
Hyd yn hyn, mae tua 13 o wahanol brosiectau Cychwyn Cadarn yn cefnogi teuluoedd drwy'r Sir i gyd. Mae gan Raglen Cychwyn Cadarn Sir Gaerfyrddin bedair prif ffrwd:
- Cymorth ar gyfer Rhieni
- Datblygu Canolfannau Teulu
- Gwasanaethau Cymorth Anghenion Arbennig
- Gwasanaethau estyniedig i Blant 4 - 10
1. Cymorth ar gyfer Rhieni
Mae datblygiadau yn y ddarpariaeth ar gyfer rhieni wedi'i seilio ar ddull haenog sy'n cydnabod bod lefel yr angen a natur y cymorth yn amrywio rhwng teuluoedd a thros amser. Rydym yn rhag-weld y bydd modd i'r rhieni gael gwasanaeth os ydyn nhw'n bodloni'r meini prawf perthnasol, a'u bod nhw'n symud wedyn, i fyny neu i lawr drwy'r haenau, yn ôl y newid yn eu hanghenion.
Haen 1 – Tim Datblygu Iechyd Cychwyn Cadarn
Estyniad i’r gwasanaeth Ymwelydd Iechyd lle mae gwirfoddlwr sydd wedi derbyn hyfforddiant (sy’n rhieni eu hunain) yn gweithio ochr yn ochr a theuluoedd yn y cartref ac mewn grwpiau i hyrwyddo rhieni i ‘fod yn gadarnhaol’.
Ffôn: 01554 74 44 27
Haen 2 – Home Start
Gwasanaeth ymweld gwirfoddol ar cartref ar gyfer teuluoedd sydd am gael cymorth, gydag o leiaf un plentyn o dan 5.
Ffôn: 01554 770808 / 01269 593853
Haen 3 – Cynorthwywyr Teulol Cychwyn Cadarn
Mae staff wedi hyfforddi yn cynnig cymorth dwys yn y cartref am gyfnod cyfyngedig, gan adeiladu ar sgiliau presennol y rhieni.
Ffôn: 01554 745150
Haen 4 – Cynllun Lleoli Rhieni a Babanod
Lleoliadau Rhiant a Baban ar gyfer rhieni sydd ag angen uchel o gymorth i gwrdd ag anghenion eu plentyn.
Ffôn: 01267 224249
2. Datblygu Canolfannau Teulu
Ar y cyd â Phlant Dewi a grwpiau lleol mae rhwydwaith wedi eu datblygu o Ganolfannau Teuluol ar draws y Sir i gynnig cymorth a chyngor i deuluoedd a hynny mewn amgylchedd gofalgar.
Erbyn hyn mae 12 Canolfan Deuluol wedi’u sefydlu ar draws y Sir, yn y Tymbl, Trimsaran, De Cefn Caeau, Y Betws, Y Garnant, Caerfyrddin (2), Llanybydder, Phencader, Sant Paul, Morfa a Felinfoel.
Mewn ardaloedd eraill, bydd canolfan deulu symudol yn cael ei darparu mewn bws aml lawr, y bwriad yw datblygu gwasanaethau parhaol er mwyn cefnogi grwpiau teuluol. Mae’r bws symudol yn ymweld a: Carwe ar ddydd Llun, Cross Hands ar ddydd Iau a Rhydaman ar ddydd Gwener rhwng 10.30 yb tan 3.30 yp.
Ffôn: 01554 745150
3. Gwasanaethau Cymorth Anghenion Arbennig
Yn ogystal â bod y gwasanaethau uchod ar gael i blant bach ag anghenion arbennig/anableddau ac yn sensitif i’w hanghenion, fe fydd adnoddau ychwanegol ar gael drwy'r projectau canlynol:
P.I.N.S. (Gwasanaeth Cymorth Cyn-Ysgol)
- Gwasanaeth i bob plentyn cyn-ysgol yn y sir sydd â phroblemau datblygiadol arwyddocaol.
- Drwy ymyrryd yn gynnar i roi cymorth a chyngor yn y cartref yn ogystal ag fel grwp, mae'r rhieni'n llwyddo i ennyn hyder i ofalu am eu plentyn.
- Cysylltwch â: 01267 234987
Cynllun Atgyfeirio Sir Gaerfyrddin
- Darparu gweithwyr un i un i alluogi plant ifanc sydd yn hwyr yn datblygu, neu sydd ag anawsterau ymddygiad i fynychu Cylchoedd Meithrin /Cylchoedd Chwarae lleol.
- Cysylltwch â: 01267 222720
Gwasaneth Therapi Iaith a Lleferydd Cychwyn Cadarn
- Gwasanaeth newydd i ostwng y nifer o blant sydd ag anawsterau iaith, lleferydd a chyfathrebu erbyn i ddynt ddechrau yn yr ysgol.
- Ffon: 01267 227425
4. Gwasanaethau Estynedig i Blant 4 – 10 oed
1. ‘Teuluoedd Gyda'i Gilydd' – Plant Dewi
- Grwpiau cymorth rhieni yn gweithio yng Nghanolfannau Teulu Trimsaran a Llanybydder.
- Cysylltwch â: 01267 221551
2. Cynllun Mentora Cymorth – Ymddiriedolaeth GIG Sir Gaerfyrddin
- Prosiect i roi cymorth a chyngor 1:1 i plant (4-10)ynghylch rheoli ymddygiad a hynny drwy dîm mentora sy'n cynnwys Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymorth a gwirfoddolwyr wedi'u hyfforddi.
- Cysylltwch â: 01554 744427
3. Prosiect Gwaith Plant - Estyn Allan Cymorth i Fenywod
- Prosiect sy'n anelu at roi cymorth i fenywod a'u plant (4-10 oed) cyn-ysgol, sy'n byw yn y gymuned, sydd wedi profi neu sy'n profi effeithiau camdriniaeth yn y cartref.
- Cysylltwch â: 01267 238410
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â
Janine Patrick
Swyddog Datblygu Cychwyn Cadarn
Ty Llwyn Pisgwydd
Lôn Pisgwydd
Caerfyrddin
SA31 1SW
Ffôn: 01267 224225
jpatrick@sirgar.gov.uk
|
|
|   |