Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin : Carmarthenshire Children's Partnership
Cartref Y Bartneriaeth
Ein Gwasanaethau
Cefnogaeth
English
Carmarthenshire Children's Partnership

Cysylltwch â ni:
Swyddog Hyfforddiant
Kay Davies,
Ffôn: 01267 246560
KaDavies@sirgar.gov.uk

Downloads:
Cyrsiau Hyfforddi Cyrsiau Hyfforddi am Gaeaf/Gwanwyn 2012
Cyrsiau Hyfforddi Rhaglen Hyfforddiant Sir Gâr 2010-11

Carmarthenshire Children's Partnership training



Hyfforddiant
Carmarthenshire Children's Partnership training

Mae'r Bartneriaeth Plant yn trefnu a chydlynu hyfforddiant i ddiwallu anghenion hyfforddi darparwyr Gofal Plant cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Bartneriaeth yn darparu hyfforddiant cymorthdaledig i gynorthwyo gweithwyr gofal plant i fodloni'r safonau a bennwyd gan AGGCC, h.y. o ran cwblhau cyrsiau gorfodol megis hyfforddiant Cymorth Cyntaf neu Hylendid Bwyd Sylfaenol. Mae'r hyfforddiant hefyd o gymorth i ddatblygiad personol gweithwyr gofal plant. Er mwyn gofalu bod y cyrsiau'n berthnasol ac yn diwallu anghenion gweithwyr gofal plant, cwblheir Dadansoddiad o Anghenion Hyfforddi a Ffurflenni Gwerthuso, ac mae cyswllt cyson hefyd â gweithwyr gofal plant.

Mae'r Bartneriaeth Plant wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â chyrff sy'n ymwneud â hyfforddiant a gofal plant yn y sir h.y. Mudiad Ysgolion Meithrin, Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant, yr Awdurdod Addysg Lleol, Clybiau Plant Cymru/Kids Club (CPC/KC), Coleg Sir Gâr a Choleg y Drindod ac ati. Cred y Bartneriaeth y bydd plant a theuluoedd yn y cymunedau ar eu hennill os cynigir addysg a gofal o safon i blant ac os hyrwyddir staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda.

Cliciwch ar y ddolen gyswllt hyfforddiant i lawrlwytho'r 'Rhaglen Hyfforddi Dymhorol' bresennol. I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddiant yn Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â:

Kay Davies
Swyddog Hyfforddiant
Y Bartneriaeth Plant
Adeilad 2
Parc Dewi Sant
Heol Ffynnon Job
Caerfyrddin, SA31 3HB

Ffôn: 01267 246560
KaDavies@sirgar.gov.uk


Cartref : Dewch i adnabod y Tîm : Partneriaeth : Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluoedd : Cychwyn Cadarn : Iaith a Chwarae : Chwarae : Arian i blant 3 oed : Hyfforddiant : Recriwtio : Datblygiad Gweithlu : Digwyddiadau : Downloads : Genesis : Dechrau’n Deg : Canolfan Blant Llwynhendy : Digonolrwydd Gofal Plant : Datblygu Gofal Plant : Cyllid a Grantiau ar gyfer Sefydliadau Gofal Plant

Site Meter