| Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin   Carmarthenshire Children's Partnership   | |||||||||
|   |   |   |   |   |   |   |   | ||
|
Navigation
| ||
|   | ![]()
A oes gennych ddawn ymdrin â phlant? A ellwch danio eu dychymyg drwy weithgareddau a chwarae rôl? Os gellwch, efallai eich bod wedi canfod gwir alwedigaeth eich bywyd. Os ydych wedi bod yn ystyried chwilio am swydd yn gofalu am blant ac yn eu helpu i chwarae, dysgu a thyfu, yna efallai mai hwn yw'r cyfle yr ydych wedi bod yn disgwyl amdano. Mae hwn yn sector sy'n ehangu ac ynddo gyfleoedd i bawb. Bydd disgwyl ichi chwarae rhan allweddol ym mywyd y plant sydd dan eich adain a helpu i osod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiad pob plentyn yn eich gofal yn ystod y blynyddoedd cynnar hanfodol hyn. Mae angen rhywun arbennig iawn, sydd â sgiliau a nodweddion, i gyflawni'r dyletswyddau hynny, ond os ydych chi'n gymwys i wneud hynny, mae'r cyfleoedd yno ichi fanteisio arnynt. Bydd angen llanw 2,300 o swyddi gwag newydd cyn 2008. Mae mentrau newydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, megis Dechrau'n Deg a'r Cyfnod Sylfaen, yn golygu y bydd angen llanw 2,300 o swyddi gwag newydd erbyn 2008. Ewch i www.playlearngrowwales.gov.uk i gael gwybod am y gwahanol yrfaoedd, pa hyfforddiant sydd ar gael ac a fyddai swydd yn gweithio gyda phlant ifanc at eich dant chi. Ar ôl ichi ymweld â'r wefan, ffoniwch Wasanaeth Gwybodaeth ynghylch Plant Sir Gaerfyrddin ar y rhif 01267 224282 i gael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi lleol. Mae'n bosibl y gallwn roi cymorth ichi hyfforddi i ennill y cymwysterau y bydd eu hangen arnoch i weithio mewn Meithrinfa Ddydd, Cylch Chwarae Cyn-ysgol, Clwb y Tu Allan i'r Ysgol neu i fod yn Gynorthwy-ydd Dosbarth, yn Warchodwr Plant neu'n Weithiwr Cynllun Chwarae. Os ydych eisoes yn gweithio gyda phlant, gallwn eich cynorthwyo i hyfforddi er mwyn gwella eich sgiliau a cheisio camu ymlaen yn eich gyrfa. Ar y cyd â Choleg Sir Gâr, mae Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin a Dechrau'n Deg Sir Gaerfyrddin wrthi’n ariannu amrywiaeth o gyrsiau Gofal Plant NVQ Lefel 2 a 3, gan gynnwys: NVQ Lefel 2 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant NVQ Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Tystysgrif CACHE Lefel 2 mewn Addysg Gofal Plant Diploma CACHE Lefel 3 – Arferion Cylchoedd Chwarae Cymru Diploma (Cymraeg) CACHE Lefel 3 mewn Arferion Cylchoedd Chwarae Cymru NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) © 2008 |   |
|   |   |   |   |   |   |   |   |